Heddiw, mae Cadeirydd yr ASB, Heather Hancock, wedi cyhoeddi cynlluniau'r adran i newid y broses o reoleiddio bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae'r ddogfen, 'Rheoleiddio Ein Dyfodol – Pam fod yn rhaid i'r system rheoleiddio bwyd newid a sut ydym ni am wneud hyn', yn amlinellu cynigion i drawsnewid y ffordd y caiff busnesau eu rheoleiddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Meddai Heather Hancock "Datblygwyd y cynllun yn dilyn 18 mis o drafod gyda'r holl randdeiliaid am y newidiadau yr ydym ni eisiau eu gwneud i'r system rheoleiddio bwyd. Rydym ni wedi datblygu'r cynigion drwy ddulliau llunio polisi agored, gan gynnal ein hegwyddorion o fod yn agored ac yn dryloyw er budd y cyhoedd. Mae'r rhesymau dros newid yn sylweddol, a mynd i'r afael â'r rhain nawr yw'r ymateb cywir gan reoleiddiwr cyfrifol. Mae'n fwy na'r newidiadau parhaus a chyflym yn yr economi bwyd byd-eang, sy'n newid y ffordd yr ydym ni'n bwyta, ble'r ydym ni'n ei fwyta, a sut mae bwyd yn ein cyrraedd ni. Mae'n debygol y bydd ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn cyflymu rhai newidiadau mewn patrymau cynhyrchu bwyd, masnachu a bwyta."
|
No comments:
Post a Comment