| Croeso i ail rifyn o'r cylchlythyr polisi rheoleiddio – Bwrw Golwg dros Bolisi. Mae'r cylchlythyr yn un digidol erbyn hyn, ac mae'r ail rifyn ar gael ar ein gwefan. | Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi cynhyrchu taflen ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sy'n gwerthu atchwanegiadau bwyd, i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae'n nodi cyfrifoldebau gweithredwr y busnes bwyd, sut y dylid labelu atchwanegiadau bwyd, gwybodaeth am honiadau iechyd a maeth, a'r cynhyrchion peryglus y dylid cadw llygad amdanynt. Mae'r daflen yn bennaf ar gyfer manwerthwyr atchwanegiadau bwyd bach llai traddodiadol megis campfeydd neu salonau harddwch. | |  | Ar 13 Rhagfyr 2016, fe ddaeth yn orfodol i gynnwys datganiad maeth ar fwyd sydd wedi'i becynnu ymlaen llaw. Mae'r ASB wedi diweddaru ei thudalennau ar Reoliadau'r Undeb Ewropeaidd ar Wybodaeth am Fwyd Rhif 1169/2011 i gynnwys gwybodaeth am y rheolau newydd hyn. Mae'r ASB yng Nghymru, yr ASB yng Ngogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban hefyd wedi cynhyrchu taflen a dogfen 'Cwestiynau ac Atebion'.  | | Mae'r ASB wedi cynhyrchu ystod o ddeunyddiau am alergenau i gynorthwyo awdurdodau lleol a busnesau bwyd wrth hyrwyddo, cyflwyno a chydymffurfio â Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd ar Wybodaeth am Fwyd. Mae'r adnoddau hyn dal ar ein gwefan, a gellir archebu copïau caled gan Adran Gyhoeddiadau'r ASB yn rhad ac am ddim. https://www.food.gov.uk/about-us/publications – cliciwch ar 'Cymraeg' | A fyddech chi'n hoffi dweud eich dweud o ran y ffordd yr ydym ni'n llunio ein polisïau? Dyma eich cyfle chi! Rydym ni eisiau i chi roi gwybod sut y gallai ein cynigion deddfwriaethol effeithio arnoch chi a'ch gwaith. Rydym ni hefyd yn cyhoeddi'r holl ymatebion a ddaw i law. Mae rhagor o wybodaeth am ymgynghoriadau ar gael isod. Nid oes ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. https://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru/ymgynghoriadau https://www.food.gov.uk/wales/cymru/newyddiondatgan/newyddion/llywio-polisi | Ar 23 Tachwedd 2016, fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn effeithiol, cynhaliodd yr ASB yng Nghymru ddigwyddiad i randdeiliaid ar bysgod cregyn ym Mhrifysgol Bangor. | |  | Mae manylion y deddfwriaeth (Offerynnau Statudol) a wnaed i Gymru yma. Maent wedi'u trefnu yn ôl y flwyddyn y cawsant eu cyhoeddi. Mae cylchlythyr Rheoleiddio ei Dyfodol yn rhoi gwybod i bawb sydd â diddordeb yn y maes am y gwaith y mae'r ASB yn ei wneud ar ddyfodol rheoleiddio bwyd. Mae hwn yn gyhoeddiad rheolaidd, sy'n nodi'r diweddaraf ar gynlluniau'r ASB, pwy rydym wedi bod yn siarad â nhw, safbwyntiau'r rheiny sydd â diddordeb, a beth fydd yn digwydd nesaf. Mae'r rhifyn diweddaraf newydd gael ei gyhoeddi ar ein gwefan. |
No comments:
Post a Comment