Monday, October 9, 2017

Cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol – Rhifyn Chwech

Methu â gweld y neges hon yn glir? Cliciwch i'w gweld fel tudalen we

Newyddion

Diwydiant a Busnes

Gorfodi a Rheoleiddio

Polisi a Chyngor

Rheoleiddio Ein Dyfodol

Croeso i rifyn chwech o Gylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol

Croeso i rifyn chwech o gylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol. Mae'r ddeufis diwethaf wedi bod yn brysur iawn, ac mae nifer o ddatblygiadau i'ch diweddaru chi arnynt.

Mae'r rhain yn cynnwys adroddiad astudiaeth dichonolrwydd ar sut y gall y Cynllun Prif Awdurdod, ac yn benodol strategaethau arolygu cenedlaethol, chwarae rôl yn rheoleiddio busnesau bwyd yn y dyfodol. Mae gennym ni hefyd ganfyddiadau gwaith yn edrych ar sut y mae  busnesau bach a chanolig yn ystyried rheoleiddio. Ac mae Michael Jackson, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen, yn rhoi trosolwg o gynnydd ac yn adlewyrchu ar ein cyfarfodydd ag awdurdodau lleol ddechrau'r haf. Cofiwch, gallwch gymryd rhan yn y drafodaeth drwy #RheoleiddioBwyd neu anfon e-bost atom yn uniongyrchol drwy: FutureDelivery@foodstandards.gsi.gov.uk

Heather Hancock

Llofnod heather Hancock

Cadeirydd, Asiantaeth Safonau Bwyd


Diweddariad Polisi

Michael Jackson

Strategaeth Arolygu Genedlaethol – Astudiaeth Dichonolrwydd

gweithredwrbusnesbwyd

Rydym ni wedi cyhoeddi astudiaeth dichonolrwydd ddiweddaraf ar Reoleiddio Ein Dyfodol, sy'n edrych ar sut all y cynllun Prif Awdurdod, a'r strategaethau arolygu cenedlaethol yn benodol, chwarae rhan wrth reoleiddio busnesau bwyd yn y dyfodol.

Darllen rhagor


Datrysiad Digidol ar gyfer Rheoleiddio Ein Dyfodol

ROF - relevant and collaborative Welsh

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau dau brosiect diweddar i edrych ar p'un y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio data archwilio a gasglwyd gan fusnesau bwyd i wirio safonau hylendid bwyd a phennu sgoriau. Cafodd yr astudiaethau dichonolrwydd eu trefnu gan yr ASB fel rhan o'i rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol.

Darllen rhagor


Adroddiad sy'n Rhoi Cipolwg ar Fusnesau Bach a Chanolig a Busnesau Micro

Fel rhan o ymgynghoriad Rheoleiddio Ein Dyfodol, fe gomisiynodd yr ASB waith ymchwil i sicrhau bod gweithredwyr busnesau bach a chanolig yn cael y cyfle i gyfrannu at y ffordd y caiff bwyd ei reoleiddio yn y dyfodol.

fishmonger

Darllen rhagor


Cyfrifol ac yn deg Roundel Cymraeg

Prosiect Peilot Safon Fyd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain ar gyfer Diogelwch Bwyd

Rydym ni wedi cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth beilot sy'n nodi'r posibilrwydd i gynllun sicrwydd Safonau Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain chwarae rhan mewn sicrwydd preifat a gaiff ei reoleiddio, un o rannau allweddol y model Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Darllen rhagor


Adroddiad ar ein digwyddiadau ymgysylltu ag awdurdodau lleol

Michael Jackson

Rydym ni nawr wedi cwblhau cyfres o ddigwyddiadau trafod ag Awdurdodau Lleol, lle bu i ni drafod ein Model Gweithredu Targed diweddaraf â dros 700 o swyddogion awdurdodau lleol yn y gwledydd perthnasol.

Gallwch wrando ar Michael Jackson, Uwch Ddefnyddiwr Busnes rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol ac arweinydd y ffrwd waith 'Sicrwydd', yn trafod yr adroddiad a beth sy'n digwydd nesaf.

Darllen rhagor


FacebookTwitter


This email was sent by the Food Standards Agency
General Enquires Aviation House, WC2B 6NH · 0207 276 8829
GovDelivery logo

No comments:

Post a Comment