Croeso i wythfed Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o brysur i dîm y rhaglen. Isod, gallwch ddarllen am ein hynt a'n helynt diweddaraf, a sut mae'r rhaglen yn mynd rhagddi. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn rhannu'r diweddaraf â chi am benderfyniad y Bwrdd ar y cysyniad Archwiliwr Rheoleiddio Ardystiedig, sut yr ydym ni'n symleiddio cynlluniau'r Rhaglen gyda'n swyddogaethau Gweithrediadau Maes a Sicrhau Gweithrediadau, adroddiad ar gam 'Darganfod' y system ddigidol newydd a'r adroddiad terfynol gan ein panel defnyddwyr. Archwilwyr Rheoleiddio Ardystiedig – Penderfyniad y Bwrdd Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ddiweddaru ein Bwrdd ar y datblygiadau diweddaraf yn rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol. Dangosodd ein cyflwyniad a thrafodaeth y Bwrdd unwaith eto sut yr ydym ni'n datblygu ein polisi blaenllaw yn agored. Roedd y Bwrdd yn gallu ein cyfeirio ar rai agweddau allweddol ar y model rheoleiddio sy'n prysur ddatblygu, a'n rhoi mewn sefyllfa dda i symud tuag at weithredu yn 2018. | Rheoleiddio Ein Dyfodol, Gweithrediadau Maes a Sicrwydd Gweithrediadau Hyd yn hyn, mae rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol wedi canolbwyntio'n bennaf ar gyflawni rheolaethau swyddogol mewn awdurdodau lleol, ond rydym bellach wedi dechrau gweithio ar sut y bydd y rhaglen yn effeithio ar Weithrediadau Maes a gweithgareddau Sicrwydd Gweithredol. | Adroddiad Darganfod y Gwasanaeth Digidol Yn ein cylchlythyr ym mis Medi, fe ysgrifennom ni am y gwaith yr oeddem ni ar fin dechrau arno i archwilio ffyrdd o wella'r prosesau cofrestru ac asesu busnesau bwyd. Gallwch ddarllen crynodeb gweithredol o adroddiad Darganfod y Gwasanaeth Digidol a'r adroddiad llawn isod. | | | Adroddiad y Panel Defnyddwyr | | Yn ein rhifyn diwethaf, fe sonion ni bod panel presennol Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol wedi cwrdd am y tro olaf fis Hydref diwethaf. Sefydlwyd y panel i sicrhau bod defnyddwyr yn rhan o ddylunio'r fframwaith rheoleiddio newydd, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn deall ymatebion a blaenoriaethau defnyddwyr, a'r risgiau a'r buddiannau canfyddedig. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn isod. | |
No comments:
Post a Comment