Thursday, February 9, 2017

Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol – Rhifyn 3

Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol

RoF Welsh banner

Croeso i drydydd Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn arbennig o brysur i dîm y rhaglen. Isod, mae'r newyddion diweddaraf am waith y tîm a sut mae'r rhaglen yn dod yn ei blaen.

Mae hyn yn cynnwys y diweddaraf am flaenoriaethau'r ASB am y tair blynedd nesaf, y digwyddiadau 'Hot House' diweddaraf a rhagor o wybodaeth am ein gwaith â busnesau llai. Gallwch hefyd ddarllen blog byr gan Diane Cook, Cadeirydd ein panel Defnyddwyr.

Heather H

Blaenoriaethau'r ASB am y tair blynedd nesaf

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Heather Hancock, wedi amlinellu blaenoriaethau'r ASB am y tair blynedd nesaf – a bydd Rheoleiddio ein Dyfodol wrth wraidd ein strategaeth yn ystod cyfnod sy'n addo bod yn un prysur iawn i'r Asiantaeth a'r Llywodraeth yn gyffredinol.

Rheoleiddio ein Dyfodol – Perthnasol a Barod i Gydweithio

Digwyddiadau 'Hot House' mis Rhagfyr a mis Ionawr

Fe barhaodd y rhaglen o 'Hot Houses' ym mis Rhagfyr a mis Ionawr, gan ganolbwyntio ar arloesedd awdurdodau lleol a Phrif Awdurdod a Strategaethau Arolygu Cenedlaethol.

Ymgysylltu â Busnesau Bwyd Bach a Chanolig

Rydym ni'n gwybod, o'r 600,000 o fusnesau bwyd sy'n gweithredu ar hyn o bryd, mae llawer ohonynt yn fusnesau bach a chanolig, a chanran uchel yn ficrofusnesau. Rydym ni'r un mor awyddus i gynnal trafodaethau â'r busnesau hyn ag yr ydym â'r busnesau bwyd mwy o faint.

RoF - Cyfrifol a theg
Rheoleiddio ein Dyfodol – Gwerthfawrogi a Balch

Cyfarfod cyntaf panel defnyddwyr Rheoleiddio ein Dyfodol

Yma, gallwch ddarllen mwy am gyfarfod cyntaf ein Panel Defnyddwyr gan Gadeirydd y Panel, Diane Cook.

This email was sent by the Food Standards Agency
General Enquires Aviation House, WC2B 6NH · 0207 276 8829
Powered by GovDelivery

No comments:

Post a Comment