Croeso i rifyn pedwar o gylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Gallwch ganfod rhagor am yr hyn mae'r tîm wedi bod yn ei wneud, a sut mae'r rhaglen yn dod yn ei blaen, isod. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn eich diweddaru ar gyfarfod diweddar ein Bwrdd, canfyddiadau o ddwy astudiaeth dichonolrwydd, adborth o gyfarfod diweddar Grŵp Cynghori Arbenigol, a dogfen ddefnyddiol sy'n rhoi trosolwg o raglen Rheoleiddio ein Dyfodol. Mae Bwrdd yr ASB wedi nodi rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol fel un o'r ddwy brif flaenoriaeth ar gyfer ail hanner strategaeth pum mlynedd yr ASB, hyd at 2020. Yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, roedd trafodaeth fanwl am gynnydd a'r sylfeini hanfodol ar gyfer datblygu'r model newydd. | Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canfyddiadau dau brosiect diweddar i edrych ar p'un y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio data archwilio a gasglwyd gan fusnesau bwyd i wirio safonau hylendid bwyd a phennu sgoriau. Cafodd yr astudiaethau dichonolrwydd eu trefnu gan yr ASB fel rhan o'i rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol. | Cafodd ail gyfarfod llawn y Grwpiau Cynghori Arbenigol ei gynnal yn gynnar ym mis Mawrth, gyda thair prif eitem a dau ddiweddariad ar yr agenda. Aeth y ddau grŵp ati i adolygu cynnydd y llif gwaith 'Segmentu' a oedd yn y cyfnod datblygu cynnar. Cyflwynodd arweinydd y llif gwaith, Nathan Phillippo, y fersiwn gyntaf o'i fap proses ar gyfer segmentu busnesau bwyd. | | | | | Yma gallwch ddod o hyd i gopi o daflen grynodeb sydd, mewn modd syml a chlir, yn esbonio pam rydym wedi dechrau ar raglen Rheoleiddio ein Dyfodol, ac yn disgrifio ein rhaglen hyd yn hyn a'n hamserlen ar gyfer y dyfodol. Bydd yn newid ac yn esblygu wrth i'r rhaglen ddatblygu, ac wrth iddi wneud hynny byddwn yn diwygio'r ddogfen a'i chynnwys mewn cylchlythyrau yn y dyfodol. Rydym yn gobeithio y byddwch chi'n ei gweld yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol. | Mae blwyddyn wedi bod ers dechrau'r rhaglen o drawsnewid mawr, Rheoleiddio ein Dyfodol, ac felly mae'n gyfle da i edrych ar y datblygiadau hyd yn hyn. |
No comments:
Post a Comment