Croeso i'n cylchlythyr diweddaraf. Rwy'n gobeithio ei fod yn ddiddorol ac yn addysgiadol. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur i ni. Rydym wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i drafod fersiwn ddiweddaraf y Model Gweithredu Targed. Mae rhagor o wybodaeth am y model isod. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein papur 'Rheoleiddio Ein Dyfodol: Pam fod yn rhaid i'r system rheoleiddio bwyd newid, a sut ydym ni am wneud hyn'. Os nad ydych wedi ei ddarllen eisoes, mae ar gael yma. Mae hon yn ddogfen allweddol, ac mae'n trafod canlyniadau ein gwaith ymgysylltu â chi dros y deunaw mis diwethaf. Mrs H J Hancock Cadeirydd Rheoleiddio Ein Dyfodol – Ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol Aeth tîm Rheoleiddio Ein Dyfodol ar daith o gwmpas Cymru, Gogledd Iwerddon ac wyth rhanbarth yn Lloegr. Yn ein cyfarfodydd, aethom ati i ymgysylltu â dros 700 o gydweithwyr yn yr awdurdodau lleol er mwyn trafod y Model Gweithredu Targed diweddaraf. | Model Gweithredu Targed diweddaraf | | Mae'r Asiantaeth wedi diweddaru'r Model Gweithredu Targed ar gyfer rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, sef y glasbrint o'r modd byddwn ni'n rheoleiddio yn y dyfodol. Mae'n cynnwys y camau sydd angen i ni eu cymryd i sicrhau bod busnesau bwyd yn gweithredu hyd orau eu gallu o'r diwrnod maent yn dechrau gweithredu. | Trydydd cyfarfod y Panel Defnyddwyr Bu i banel defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol gwrdd am yr ail dro ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf. | | | Cyfarwyddwr 'Rheoleiddio Ein Dyfodol' yn trafod ein cynlluniau ar gyfer dyfodol rheoleiddio bwyd | | Mae blwyddyn o'r rhaglen drawsnewid i foderneiddio ac ail-siapio'r modd y caiff busnesau bwyd eu harolygu wedi mynd heibio. Mae hwn yn ddull system cyflawn, gan ddeall pa wybodaeth sydd ar gael i swyddogion diogelwch bwyd, o ystod ehangach o ffynonellau, a sut gellir ei defnyddio yn y dyfodol i gael sicrwydd bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. | Gwyliwch ddau fideo gyda chynrychiolwyr ein Grwpiau Cynghori Arbenigol |
No comments:
Post a Comment