Croeso i nawfed rhifyn cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Y tro hwn, rydym ni'n edrych ar y cynnydd hyd yma ar ein Strategaethau Arolygu Cenedlaethol, ein trafodaethau panel defnyddwyr diweddaraf a'r camau nesaf ar gyfer Cofrestru Manylach. Maen nhw'n rhannau pwysig o'n syniad cyffredinol ar gyfer fframwaith rheoleiddiol modern, ac rwy'n falch eu bod nhw bron yn realiti. Mae'n bwysig camu'n ôl ac atgoffa ein hunain pam ein bod ni wedi ymgymryd â'r rhaglen ddiwygio uchelgeisiol hon a beth fydd y manteision i ddefnyddwyr, busnesau ac awdurdodau lleol. Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r hyn y mae rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol am ei chyflawni. Bydd llawer ohonoch chi'n gwybod bod y cyfryngau wedi rhoi sylw yn ddiweddar i adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athrawon Lang a Millstone. Cefais i fy siomi i weld nad oedd ffeithiau'r awduron yn gywir. Yn benodol, thema ganolog yr adroddiad a oedd yn honni na fyddai awdurdodau lleol bellach wrth wraidd y broses rheoleiddio bwyd ac y byddai busnesau yn gallu dewis is-gontractiwr, yn ngeiriau'r adroddiad, "i farcio eu gwaith cartref". Fel y dywedais yn ein cyfarfod bwrdd y mis diwethaf, nid yw hyn yn wir. Does dim bwrdiad gennym ni i gael gwared ar awdurdodau lleol o reng flaen y broses o sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw gwella rôl yr awdurdodau lleol drwy ddarparu ffynonellau gwybodaeth eraill iddyn nhw a fydd yn llywio math ac amlder yr arolygiad sy'n ofynnol. O dan raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, bydd awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi rheoliadau diogelwch bwyd a safonau bwyd. Byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a fydd yn amlinellu'r hyn rydym ni wedi'i gyflawni a'r prif brosiectau rydym ni'n gweithio arnynt yn ystod 2018 a 2019. Yn ôl yr arfer, hoffem glywed eich barn, a gallwch wneud hynny drwy e-bostio: FutureDelivery@food.gov.uk Heather Hancock Cadeirydd yr ASB Cofrestru manylach: y camau nesaf Mae Cofrestru Manylach yn rhan allweddol o raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol. Ei nod yw gwella'r broses gofrestru i gael data o ansawdd gwell am fusnesau bwyd a fydd yn helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu a theilwra eu gweithgareddau a rhoi golwg gynhwysfawr i ni o'r holl fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. | | | Cynigion ar gyfer safon strategaeth arolygu genedlaethol diogelwch bwyd, goruchwyliaeth a sicrwydd prif awdurdod Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi bod yn archwilio sut allai cynllun y Prif Awdurdod chwarae rôl ym Model Rheoleiddio Ein Dyfodol. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar gysyniad strategaethau arolygu cendedlaethol ar gyfer partneriaethau diogelwch bwyd. Mae strategaeth arolygu genedlaethol yn caniatáu i brif awdurdod gymryd mwy o reolaeth dros ymyriadau rhagweithiol ar draws busnes (neu grŵp o fusnesau), gan leihau ymyriadau rhagweithiol os oes tystiolaeth gref bod y busnes yn cydymffurfio a rheoli ei risgiau'n dda. | Panel Cymuned Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol Cafodd cyfarfod cyntaf panel newydd Cymuned Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol ei gynnal fis Mawrth 2018. Roedd 12 person ar y panel o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y panel, sy'n cynnwys cymysgedd o hen aelodau ac aelodau newydd yn rhoi perspectif defnyddwyr ar flaenoriaethau'r rhaglen yn ystod y cyfnod cyflawni a gweithredu. | | | |
No comments:
Post a Comment