Tuesday, November 21, 2017

Seithfed Rhifyn Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol

Methu â gweld y neges hon yn glir? Cliciwch i'w gweld fel tudalen we

Newyddion

Diwydiant a Busnes

Gorfodi a Rheoleiddio

Polisi a Chyngor

Rheoleiddio Ein Dyfodol

Croeso i'r seithfed rhifyn o Gylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol

Heather H

Croeso i seithfed rhifyn cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol. Y mis hwn mae gennym newyddion am ein gweithgor segmentu, cyfweliad â Diane Cook a fu'n cadeirio sesiynau olaf y panel defnyddwyr presennol, a rhai syniadau gan Aaron Esler, Swyddog Safonau Masnach sydd wedi ymuno â ni ar yr ochr safonau bwyd i gynyddu ein harbenigedd yn y maes hwn.  Cynhaliwyd ein derbyniad seneddol y mis diwethaf, ac roedd yn bleser siarad â nifer fawr o randdeiliaid am raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol. 

Llofnod heather Hancock
 

Cadeirydd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd


Gweithgor Segmentu

ROF - relevant and collaborative Welsh

Rydym wedi sefydlu gweithgor i gefnogi datblygiad y model gweithredu targed ar gyfer Rheoleiddio Ein Dyfodol. Bydd y grŵp yn cynnig trosolwg parhaus wrth i ni ddatblygu ein dull newydd o ran segmentu. Mae'r grŵp yn cynnwys arbenigwyr o awdurdodau lleol, rheoleiddwyr a'r diwydiant, ac mae'n rhoi cyngor a chipolwg arbenigol ar dueddiadau, data a chanfyddiadau ymchwil sy'n dod i'r amlwg.

Darllen rhagor


Cyfarfod Olaf Panel Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Bu i banel defnyddwyr presennol Rheoleiddio Ein Dyfodol gwrdd am y pedwerydd tro, a'r tro olaf, ddydd Sadwrn 21 Hydref 2017. Y nod cyffredinol yw sicrhau bod defnyddwyr yn rhan o ddylunio'r fframwaith rheoleiddio newydd, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn deall ymatebion a blaenoriaethau defnyddwyr, a'r risgiau a'r buddiannau canfyddedig.

 

Cwpl yn siopa

Darllen rhagor


Safonau Bwyd yn rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol

Rheoleiddio ein Dyfodol – Tryloyw ac Onest

Mae Aron Esler, a ymunodd â thîm Rheoleiddio Ein Dyfodol i ganolbwyntio ar feysydd safonau bwyd y rhaglen, yn rhoi trosolwg o'r gwaith y bydd yn ei wneud.

Darllen rhagor


Derbyniad Seneddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Click to edit this placehDaeth dros gant o aelodau seneddol a chynrychiolwyr o'r diwydiant bwyd a sefydliadau anllywodraethol ynghyd yn Nhŷ'r Cyffredin i glywed prif araith y digwyddiad gan gadeirydd yr ASB, Heather Hancock. Siaradodd am heriau diogelwch bwyd ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac esboniodd rôl yr ASB wrth helpu'r Deyrnas Unedig i adeiladu model rheoleiddio cadarn a hyblyg ar gyfer y dyfodol.older text.

Ty'r Cyffredin

Darllen rhagor


Animeiddiad o'r Model Gweithredu Targed

Model Gweithredu Targed

Rydym newydd lansio fersiwn wedi'i hanimeiddio o'n Model Gweithredu Targed, sy'n dangos sut bydd busnesau'n defnyddio'r system reoleiddio newydd fel rhan o'r rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Darllen rhagor

FacebookTwitter


This email was sent by the Food Standards Agency
General Enquires Aviation House, WC2B 6NH · 0207 276 8829
GovDelivery logo

No comments:

Post a Comment