Monday, October 30, 2017

Bwrw Golwg Dros Bolisi - Rhifyn 3

Methu â gweld y neges hon yn glir? Cliciwch i'w gweld fel tudalen we

Newyddion

Diwydiant a Busnes

Gorfodi a Rheoleiddio

Polisi a Chyngor

Bwrw Golwg Dros Bolisi

Croeso i drydydd rhifyn ein cylchlythyr polisi rheoleiddio. 

Cliciwch yma i ddarllen y cylchlythyr


Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd

Nod cynlluniau'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) yw sicrhau bod rheoliadau effeithiol ar waith, ac wrth ymadael, bod rheoleiddiwr effeithiol ar waith hefyd.

Mae cynlluniau arfaethedig yr ASB am geisio sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei gynnal, a bod diddordebau defnyddwyr yn cael eu diogelu o'r diwrnod pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE. I gael rhagor o wybodaeth gefndirol am y gwaith hwn a gwaith y dyfodol, cliciwch yma

EU Exit

Systemau Rheoli Gweithredol ar gyfer Dyfroedd Cynaeafu Pysgod Cregyn Wedi'u Dosbarthu

Cimwch

Mae Systemau Rheoli Gweithredol (AMS) yn defnyddio modelau er mwyn rhagfynegi digwyddiadau â risg llygredd uchel a allai dod â chynaeafu a gwaith samplu i ben o'u herwydd, hyd nes y bydd y lefelau uwch o lygredd a gafodd eu rhagfynegi yn gostwng eto.

I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth a gomisiynwyd gan yr ASB er mwyn pennu pa ddata sydd ei angen i greu model effeithiol, a'r camau nesaf, cliciwch isod. 

Darllen rhagor


Deddfwriaeth newydd

Manylion deddfwriaeth newydd (offerynnau statudol) a wnaed yng Nghymru.

Darllen rhagor


Ymgyrch OPSON 2016

Mae OPSON yn fenter fyd-eang sy'n cael ei chydlynnu gan Europol-INTERPOL. Mae'n canolbwyntio ar fwyd ffug ac o safon is na'r hyn sy'n dderbyniol, a'r rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol sydd y tu ôl i'r fasnach anghyfreithlon hon.

Canolbwyntiodd partneriaid yng Nghymru a Gogledd Iwerddon eu gweithgarwch ar atchwanegiadau bwyd ar gyfer OPSON VI. I gael rhagor o wybodaeth ar OPSON yng Nghymru a'r erlyniadau sydd wedi deillio o ganlyniad i'r gwaith hwn, cliciwch ar y ddolen isod. 

OPSON yng Nghymru

DNP

Cyfrannu at waith ymgynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae ymgynghori â rhanddeiliaid am waith rheoleiddio a pholisïau presennol a rhai sy'n datblygu yn rhan hanfodol o waith yr Asiantaeth, ac yn elfen yr ydym yn ceisio ei haddasu'n barhaus er mwyn bodloni anghenion rhanddeiliaid yn well. Dyma'r holl ffyrdd rydym yn ymgynghori â rhanddeiliaid trwy ein gwefan.

Darllen rhagor


Llawlyfr Safonau Bwyd

Llawlyfr

Mae'r llawlyfr yn ddogfen gyfeirio ar gyfer yr ystod eang o ddeddfwriaeth safonau bwyd y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol amdanynt sydd mewn grym yng Nghymru, a'r codau ymarfer a nodiadau canllaw perthnasol. Nod y llawlyfr yw rhoi trosolwg i swyddogion awdurdodedig o'r ddeddfwriaeth a sut i'w dehongli, yn ogystal ag egluro sut i'w gorfodi yn ymarferol. Mae hefyd yn galluogi swyddogion i nodi ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.

Er bod y llawlyfr wedi'i anelu yn bennaf at swyddogion gorfodi, mae gweithredwyr busnesau bwyd yn gallu ei ddefnyddio fel dogfen gyfeirio neu ganllaw.   

Darllen rhagor


Tanysgrifio i'n cylchlythyr

Mae'r cylchlythyr Bwrw Golwg dros Bolisi yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ddatblygiadau polisi bwyd a mentrau perthnasol.

Gallwch ddysgu mwy am waith y tîm polisi rheoleiddio yng Nghymru, darllen newyddion am ymgynghoriadau ac astudiaethau cyfredol, a llawer mwy. Er mwyn clywed y newyddion diweddaraf am bolisi a'n gwaith, cliciwch ar y ddolen er mwyn tanysgrifio i'r cylchlythyr a derbyn rhifynnau'r dyfodol.

Tanysgrifiwch

Papurau newydd
FacebookTwitter


This email was sent by the Food Standards Agency
General Enquires Aviation House, WC2B 6NH · 0207 276 8829
GovDelivery logo

No comments:

Post a Comment